english version available

Rydych mewn ... adref
Cyngor Busnes ar gyfer Busnesau Sir Ddinbych

Os ydych naill ai yn meddwl am ddechrau busnes neu os ydych eisoes yn rhedeg busnes o fewn Sir Ddinbych – yr ydym yma i’ch helpu.

Mae cefnogaeth busnes yn cynnwys y gwasanaethau canlynol:

  • gwasanaeth cyngor a chefnogaeth busnes cynhwysfawr
  • cymorth wrth baratoi cynlluniau busnes
  • rhaglen hyfforddiant busnes gynhwysfawr
  • darparu adeiladau
  • cyngor ariannol a chymorth i sicrhau cyllid oddi wrth ffynonellau perthnasol yn y sector cyhoeddus a phreifat.
  • cymorth i ddod o hyd i safleoedd ac adeiladau
  • cymorth a chyngor ar farchnata, cyllid, sicrhau ansawdd, prisio, gwerthu, treth
  • cymorth ariannol uniongyrchol yn ffurf benthygiadau a grantiau
  • cymorth cyffredinol ar Gynllunio Busnes
  • Datblygiad Cymunedol a Datblygiad Economaidd Gymdeithasol
Cyngor Busnes ar gyfer busnesau Sir Ddinbych
Cychwyn Busnes Newydd?
Yna gadewch i Asiantaeth Antur Sir Ddinbych eich cynorthwyo i ddechrau. Rydym yn medru darparu cymorth , cefnogaeth ac hyfforddiant yn rhad ac am ddim er mwyn eich darparu â’r cyfle gorau am lwyddiant. Rydym yn darparu cyngor diduedd drwy Raglen Busnes Newydd Awdurdod Datblygu Cymru. Dewiswch y cyswllt cymorth busnes uchod am fwy o wybodaeth.

A ydych eisoes yn rhedeg Busnes o fewn Sir Ddinbych?
Mae cymorth a chyngor hefyd ar gael ar eich cyfer. Mae yna gyngor cyffredinol ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer busnesau o fewn yr ardal. Felly, os ydych am gael cymorth i ddatblygu eich busnes yna gall ein cynghorwyr eich helpu. Dewiswch y cyswllt cymorth busnes uchod am fwy o wybodaeth.

Awgrym y mis
Sicrhewch bod eich gweithwyr i gyd yn barod i gyflwyno eu Ffurflenni Treth Incwm yn barod ar gyfer y dyddiad cau ym mis Medi er mwyn osgoi ceisiadau munud olaf am gopiau o wybodaeth y maent eisoes wedi derbyn oddi wrthych.