Y Gwasanaeth Dechrau BusnesBeth yw’r Gwasanaeth Dechrau Busnes? Mae’r Gwasanaeth Dechrau Busnes a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn cynnig rhaglen teilwredig, safonol o gefnogaeth er mwyn cynorthwyo i greu ystod o gyfleoedd cychwyn busnes newydd trwy ddefnyddio gwasanaethau cynghorwyr busnes cymwysiedig. Mae’n galluogi hyblygrwydd trosglwyddiad er mwyn sicrhau bod busnesau yn medru cyrraedd eu llawn potensial trwy ddarparu cefnogaeth yn unol ag anghenion unigol. |
![]() |
Sut mae’n gweithio? Bydd sicrhau bod lefel priodol o gefnogaeth yn cael ei ddarparu yn hanfodol i ddatblygiad y syniad busnes. Caiff hyn ei benderfynu trwy werthuso’r syniad busnes a thrwy ddarganfod ymrwymiad yr unigolion parthed buddsoddiad personol ac amser. Caiff pecyn cefnogaeth priodol ei gytuno rhwng y cleient a’r cynghorydd busnes. Bydd hyn yn cynnwys cyngor un-i-un ar osod amcan busnes, rheolaeth ariannol, marchnata a chefnogaeth ar gyfer derbyn cyllid buddsoddiad. |
Gwasanaeth Dechrau Busnes Caiff sgiliau sylfaenol busnes eu datblygu trwy weithdai rhyngweithiol. Bydd y gweithdai yn cwmpasu dealltwriaeth o nifer o feysydd gan gynnwys:
Cynhelir y gweithdai yn fisol yn Y Rhyl ac yn Rhuthun. |
Bydd y Rhaglen Cychwyn Busnes Newydd hefyd yn cefnogi cynhaliadwyaeth |
|

