english version available

Rydych mewn ... newyddion

Newyddion oddi wrth Llygad Busnes

COMISIWN CYDRADDOLDEB A HAWLIAU DYNOL
Lansiwyd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac yn cymryd lle'r hen gomisiynau cydraddoldeb - Y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, Y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal. Mae’r wefan newydd nawr yn fyw gydag adrannau yn gysegredig i faterion anabledd, rhyw a hil, ynghyd ag ardaloedd gwahanol ar oedran, tueddfryd rhywiol, crefydd a chred a hawliau dynol. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/549925.html

HMRC YN RHYBUDDIO YNGLYN Â CHOSBAU CYNLLUN Y DIWYDIANT ADEILADU
Mae Cyllid a Thollau eu Mawrhydi (HMRC) wedi dechrau codi cosbau am unrhyw ffurflen Cynllun Diwydiant Adeiladu na dderbyniwyd erbyn y dyddiad dyledus. Mae hyn yn cynnwys ffurflenni sydd yn daladwy o gychwyn y cynllun newydd rhwng Mis Mai - Mis Medi 07, yn cynnwys ffurflenni gyda dim trafodion. Bydd unrhyw ffurflen na dderbyniwyd gan gytundebwyr erbyn y dyddiad nawr yn agored i gosb benodol o £100.00 a tal pellach am unrhyw gost ychwanegol tra bod y ddyled heb ei dalu. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/548855.html

MESURAU’R AWDURDOD GWASANAETHAU ARIANNOL I HELPU CWMNÏOEDD BACH
Cyhoeddwyd mesurau newydd gan Yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol i gynyddu eu cysylltiad gyda chwmnïoedd bach yn y diwydiant gwasanaethau ariannol, gyda’r bwriad i’w helpu i wneud gwelliant cyflymach wrth gwrdd â Menter Trin Cwsmeriaid yn Deg (TCF) yr FSA, ac i adnabod yn gyflymach y rheini sydd angen sylw rheoleiddiol. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/549131.html

HSE YN RHYBUDDIO YNGLYN Â DISGYN O GERBYDAU
Lansiwyd ymgyrch ymwybyddiaeth gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn rhybuddio ynglyn â’r peryglon o ddisgyn oddi ar gerbydau yn y man gwaith. Dangosir ffigurau yn 2004-05 fod gan y diwydiant trafnidiaeth un o’r cofnodion gwaethaf am anafiadau mawr oherwydd cwymp o gerbyd, a bod y sector wedi cyfrif am 31% o’r holl drychinebau yn y man gwaith. Bob blwyddyn anafwyd 2,000 o weithwyr yn ddifrifol wedi disgyn o’u cerbyd. Mae ymgyrch trafnidiaeth barhaol yr HSE yn rhybuddio gweithwyr i gymryd rhagofalon synhwyrol er mwyn lleihau peryglon mewn unrhyw waith yn gysylltiedig â cherbydau. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/550234.html

CYTUNDEB PATENTAU YN BWRIADU ARBED DROS £10M Y FLWYDDYN I FUSNESAU PRYDAIN
Cyhoeddwyd Yr Arglwydd Triesman dros Eiddo Deallusol ac Ansawdd y cafwyd Cytundeb Llundain ei gymeradwyo, a allai arbed dros £10 miliwn y flwyddyn i fusnesau Prydain. Bydd y cytundeb yn dod i effaith yn gynnar ym mlwyddyn 2008 a gallai haneri costau trosi nodweddiadol patent a ganiatawyd gan Swyddfa Batentau Ewrop (EPO). Bydd busnesau yn arbed mwy na £2,000 am gais patent Ewropeaidd nodweddiadol. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/550264.html

SAFONAU CYFFREDIN LLETY YN Y DU
Daeth cynlluniau safonau cyffredin newydd y DU yn effeithiol am lety yng Nghymru. Bydd busnesau Llety yn barod wedi derbyn ymweliad graddio ac adroddiad asesu yn eu cynghori o’u gradd o fis Hydref 07. Ynghyd a beth sydd angen arnynt i wella neu gyflwyno os ydynt am gyflawni gradd uwch. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/549181.html

PECYN CYMORTH MARCHNATA I FUSNESAU TWRISTIAETH
Cynhyrchwyd pecyn cymorth marchnata i fusnesau twristiaeth yng Nghymru, yn darparu cyngor ac awgrymiadau i helpu cynllunio ymgyrch marchnata gweithredol. Mae’r pecyn cymorth yma yn cynnwys gwybodaeth, ymarferion ac esiamplau o sut y gwnaeth marchnata weithio i fusnesau marchnata eraill yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/549185.html

ENVIROWISE YN ANNOG BUSNESAU I LEIHAU EU HEFFAITH AR YR AMGYLCHEDD
Mae Envirowise yn annog busnesau yng Nghymru I feddwl am leihau eu heffaith ar yr amgylchedd, dywedir y gall un awr yr wythnos helpu achub y blaned. Mae’r awgrym yn dod wrth i reolwyr busnes datgelu eu bod yn ymdrechu i ddod o hyd i amser i ystyried yr effaith bydd gan eu cwmni ar yr amgylchedd. Bu chwarter o’r rheini a gafwyd ei arolygu gan Envirowise yn teimlo na allent arbed mwy nac awr yr wythnos, neu lai, sut bynnag meddai Envirowise bod hyd yn oed nifer bach o amser yn ddigon i weithredu mesurau cyflym a hawdd i helpu’r amgylchedd ac arbed arian. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/549295.html

YMGYNGHORIAD AR BLASTIG AILGYLCHEDIG I’W DDEFNYDDIO GYDA CHYSWLLT Â BWYD
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar hyn o bryd yn rhedeg ymgynghoriad ar gynigion am reoliad ar blastigau ailgylchedig i’w ddefnyddio gyda chyswllt a bwyd. Disgwylir I’r rheoliad cael ei lywodraethu mwy na thebyg ym mis Rhagfyr 07. Y dyddiad cau am ymatebion ydy’r 28ain o Dachwedd 07. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/550566.html

YMGYRCH I DDATGAN CYMRU FEL CENEDL MASNACH DEG
Rhoddwyd hwb i Ymgyrch sydd yn bwriadu datgan Cymru fel y Genedl Masnach Deg gyntaf y byd erbyn diwedd 2007 gan Jane Davidson, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai. Er mwyn cyflawni statws Masnach Deg Cenedlaethol bydd angen I 75% o bobl yng Nghymru prynu cynnyrch Masnach Deg bob blwyddyn, gyda 40% o bobl yn prynu cynnyrch yn gyson. Mae cynnyrch Masnach Deg yn caniatáu i gynhyrchwyr sicrhau pris teg yn cynnwys costau cynhyrchu ac yn gwarantu incwm byw a chynaliadwy. Mae Cynhyrchwyr Masnach Deg yn derbyn cymorth er mwyn ennill y wybodaeth ar sgiliau sydd angen i ddatblygu eu busnesau a chodi gwerthiannau. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/549436.html

GWELLA IECHYD POBL O OEDRAN GWEITHIO
Lansiwyd y Llywodraeth ‘alwad am dystiolaeth’ fel rhan o arolwg cyntaf erioed iechyd y boblogaeth o oedran gweithio, ac yn chwilio am wybodaeth o fusnesau fel rhan o’r ymgynghoriad. Y dyddiad cau am ymatebion ydy’r 30ain o Dachwedd 07. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/549623.html

RHYBUDD I LANDLORDIAID AR WENWYNIAD CARBON MONOCSID
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi rhybuddio landlordiaid a pherchenogion tai am y peryglon o wenwyniad carbon monocsid yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth CO. Dangosodd ymchwil a gomisiynwyd gan yr HSE yn 2006 fod 45% o gartrefi yn anymwybodol o beryglon gwenwyniad CO o ddyfeisiau nwy. Gofynnir i landlordiaid o dan y gyfraith i gynnal eu dyfeisiau nwy a ffliwiau gyda gwiriadau diogelwch blynyddol. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/549935.html

CYNLLUNIAU PENSIWN I’W E-FFEILIO
Dylai cynlluniau pensiwn anfon gwybodaeth yn electronig i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi, a anfonwyd drwy ffurf papur yn y gorffennol. Gofynnir I weinyddwyr Cynllun Pensiwn ffeilio ei geisiadau yn electronig er mwyn cofrestru cynllun, ffurflenni cynllun cofrestredig, cyfrifyddu ar gyfer ffurflenni treth, datganiadau gweinyddwr cynllun, adroddiadau digwyddiadau, hysbysiadau dirwyn i ben a hysbysiad gweinyddwr cynllun yn terfynu ei apwyntiad. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/550045.html

TRWYDDEDU AMGYLCHEDDOL AR GYFER GWEITHGAREDDAU DIWYDIANNOL A GWASTRAFF
Mae rheoliadau amgylcheddol newydd yn cael ei gyflwyno ar gyfer gweithgareddau diwydiannol a gwastraff a allai niweidio iechyd dynol neu’r amgylchedd os nad ydynt yn cael ei rheoli. Mae trwydded amgylcheddol sengl yn cychwyn o dan y Rhaglen Trwyddedu Amgylcheddol o fis Ebrill 08 - menter Rheoliadau Gwell ar y cyd rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd a Llywodraeth Cynulliad Cymru - yn cyfuno’r drwydded rheoli gwastraff blaenorol a systemau atal a rheoli llygredd, gyda’r bwriad i’w gwneud yn fwy syml ac yn llai costus i fusnesau i fod yn amgylcheddol gyfrifol. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/550059.html

ACAS YN ANNOG BUSNESAU I CHWILIO AM GYNGOR I OSGOI TRIBIWNLYSOEDD CYFLOGAETH
Mae ACAS yn annog busnesau i chwilio am gyngor er mwyn osgoi tribiwnlysoedd cyflogaeth, gan arbed miliynau o fynnoedd. Mae’r rhybudd yn dilyn ymchwil annibynnol newydda gomisiynwyd gan ACAS, a dangoswyd yr oedd busnesau yn chwilio am gyngor wedi helpu atal 16,000 o dribiwnlysoedd cyflogaeth ac arbed £120 miliwn o fynnoedd. Roedd yr ymchwil hefyd wedi adnabod anghyflogaeth, colli swydd, trosglwyddiadau busnes fel y pryderon mwyaf yn y man gwaith i weithwyr Prydain. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/550567.html

CYFLOGWYR YN CAEL EU HANNOG I ANNOG DARLLEN
Lansiwyd Blwyddyn Genedlaethol Darllen gan Ed Balls, Ysgrifennydd dros Blant, Chwaraeon a Theuluoedd yn cychwyn ym mis Ionawr 08, gyda’r bwriad i annog pawb o unrhyw oedran i ddarganfod pleser darllen. Mae’r ysgrifennydd wedi annog cyflogwyr i fod yn greadigol a throi ei hen ystafelloedd ysmygu i mewn I ‘llyfrgelloedd bach’ er mwyn helpu wella’r diwydiant darllen yn y DU. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/550673.html

GWEINIDOG DEFNYDDWYR YN ANNOG DIOGELWCH TEGANAU
Mae Gweinidog Defnyddwyr Gareth Thomas wedi galw ar y diwydiant teganau i ailddyblu ei hymdrechion ar ddiogelwch. Meddai’r gweinidog bod y rhan fwyaf o’r teganau'n iawn ond gallai’r rhai nad sydd yn ddiogel danseilio hyder y rhiant, a hyd yn oed os byddent yn cael ei galw yn ôl cyn iddynt gyrraedd y defnyddiwr, gallai dal i arwain at brinder mewn eitemau poblogaidd, yn enwedig gyda’r cyfnod yn arwain at y Nadolig. Am ragor o wybodaeth gweler: http://www.llygadbusnes.org.uk/550913.html