|
Ymunodd Eirlys â’r Asiantaeth ar y cychwyn yn 1987. Mae wedi cael profiad helaeth ar holl agweddau Hunan Gyflogaeth. Mae’n rhedeg partneriaeth busnes ei hunan gyda’i gŵr. Mae’n siarad Cymraeg ac yn medru cynnig cyngor busnes yn y gymraeg a’r saesneg. Mae Eirlys yn hyfforddwraig gymwysedig ac enillodd ei Thystysgrif Addysg Ôl-Radd yn 1995 ac mae’n aseswr cymwysedig NVQ. Mae’n aelod o Sefydliad Cynghorwyr Busnes ac yn aelod o’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig. Mae ar hyn o bryd yn dilyn cwrs gradd uwch mewn Gweinyddiaeth Busnes. |
| Arwyn Jones Swyddog Datblygiad Busnes a Rheolwr Gweinyddol Rhuthun 01824 705782 |
Bu Arwyn yn ymwneud â darparu gwasanaeth cyngor busnes a gweinyddiaeth cyffredinol ers 1987 a chyn hynny, bu’n ymwneud â’r byd bancio. Mae’n medru cynnig gwasanaeth dwy-ieithog ac mae ganddo brofiad o fewn cyllid a datblygiad gwledig. Mae Arwyn yn aelod o’r Sefydliad Cynghorwyr Busnes. |
| Arwel Hughes Swyddog Datblygiad Busnes Rhuthun 01824 705782 |
Bu Arwel yn gynghorydd busnes yn yr Asiantaeth Antur ers 2001. Cyn hynny bu’n rhedeg dau fusnes manwerthu llwyddianus yn Llandudno am bron 8 mlynedd. Yn flaenorol bu’n gweithio ym Manc Lloyds mewn canghennau yng Ngogledd Cymru, gan ehangu ei brofiad a’i wybodaeth parthed cyllid busnes a phersonol. Mae’n arbenigo mewn busnesau cychwynol a marchnata. Mae Arwel yn aelod o Sefydliad Cynghorwyr Busnes. |
| Sian Roberts Cydlynydd Rhaglenni Rhuthun 01824 705782 |
Bu Sian yn gweithio’n yr adran cefnogaeth busnes ers 8 mlynedd. Gan ddechrau fel derbynnydd mae heddiw’n Gydlynydd Rhaglenni. Tra’n gweithio gyda’r Asiantaeth Antur enillodd NVQ Lefel 3 mewn Gwybodaeth Busnes a HNC men Busnes. |
| Sandra Roberts Swyddog Gwybodaeth Busnes Y Rhyl 01745 330777 |
Mae Sandra’n gweithio o swyddfa Y Rhyl ac mae’n gyfrifol am holl waith weinyddol y swyddfa. Mae ganddi NVQ Lefel 3 mewn Gwybodaeth Busnes ac NVQ Lefel 3 mewn Gofal Cwsmer. Os oes angen cymorth arnoch yna cysylltwch â Sandra ac fe fydd yn falch o’ch cynorthwyo. |
