english version available

Rydych mewn ... storiaullywddiant

G.O.N. Granite & Marble Ltd

Yn dilyn gweithio i gyflogwr am beth amser roedd gennyf yr awydd fod yn feistr ar fy hun fel y byddem y medru cael yr annibyniaeth i ennill arian fy hunan.

Ffoniais Asiantaeth Antur Sir Ddinbych am apwyntiad ac fe ddechreuodd y cyfan o’r fan honno.

Derbyniais cefnogaeth gam wrth gam i roi cynllun busnes at ei gilydd trwy sesiynau 1 i 1 ac hefyd trwy fynychu modelau dechrau busnes. Cyflwynodd Asiantaeth Antur Sir Ddinbych fi at amrywiol becynnau ariannu y gallem wneud cais amdanynt gan hefyd fy nghyfeirio at gystadleuaeth rhanbarthol Livewire a lwyddais i’w ennill! gan fynd ymlaen i gystadleuaeth Gymru gyfan. Roedd hyn ei hun yn brofiad – ac yr oedd i gyd yn deillio o staff Asiantaeth Antur Sir Ddinbych.

Roeddwn yn hyderus wrth ddechrau fy musnes oherwydd y gwyddwn bod Asiantaeth Antur Sir Ddinbych ochr draw i’r ffôn os oedd gennyf unrhyw gwestiynau. Cefais gymorth hefyd oddi wrth Cyberskills Sir Ddinbych yn Ninbych i ddarparu cymorth technegol gyda chynllunio gwefan.

Erbyn hyn rwyf wedi bod yn masnachu fel G.O.N. Granite & Marble Ltd, yn seiliedig yng Ngarej Bachymbyd, Ffordd Rhuthun, Llanrhaeadr ers 2000 ac ar hyn o bryd rwy’n cyflogi 14 o bobl.

Os ydych yn meddwl dechrau busnes yna gwnewch yn siwr mai Asiantaeth Antur Sir Ddinbych yw eich galwad gyntaf. Byddant yn eich arwain drwy’r camau nesaf a gwnewch yn siwr eich bod yn derbyn yr holl y mae gennych yr hawl iddo.

 

Stori Llwyddiant G.O.N Grantie & Marble Ltd

Glyn Newall
G.O.N. Granite and Marble Ltd
Gwneuthurwyr ac Arbenigwyr Gosod
Arwynebau Cegin Gwenithfaen.

www.g-o-n.co.uk

Easy Chemicals Ltd

Torri mewn i farchnad lawn

Mae farchnad y DU ar gyfer cynnyrch profi a thrin pyllau nofio yn mynd drwy gyfnod o dŵf angyffredin fel bod perchnogion tai yn edrych am ffyrdd newydd i ychwanegu at eu buddsoddiad mwyaf – y cartref teuluol.

Yn draddodiadol bu rhaid i berchnogion pyllau fynd ymhell i ddod o hyd i gynnyrch pwll hanfodol. Mae’r wefan yn darparu safle marchnad gystadleuol parthed cemegau pwll nofio a chynnyrch cysylltiol. Darganfyddodd cyfarwyddwyr EasyChemicals cilfach marchnad ble y gall busnes sydd ag ystod gil o gynnyrch hanfodol, gyda chostau isaf posibl, ailosod pris y farchnad ar gyfer cynnyrch cemegol a datblygu dilyniant cwsmeriaid cryf.

Dechreuodd EasyChemicals gyflenwi ar y wefan ar Mehefin 1af 2005, gan gynnig ystod safonol o gynnyrch profi a thrin a gynhyrchwyd yng Nghymru ar gyfer rheolaeth pyllau nofio. Gan anelu at y farchnadoedd cartref a phroffesiynol canolbwyntiodd Easy Chemicals yn unig ar ddarparu cynnyrch defnyddiadwy am bris cystadleuol gyda chludiant y diwrnod gwaith canlynol.

Datblygwyd y syniad busnes yn wreiddiol trwy drafodaethau gyda Chanolfan Cyberskills Sir Ddinbych a fu’n adnodd bwysig arall i’r cwmni, gan ddarparu cyngor technegol ar gynllunio safle gwefan a meddalwedd arall. Roedd y trafodaethau cyntaf yma o dan gynllun E-fasnach Cyfle Cymru yn galluogi’r cyfarwyddwyr i herio’r cynnig busnes, i gywreinio strategaethau TG a sefydlu prosesau ar gyfer gostwng costau. Yn y farchnad hon fe ddaeth yn amlwg y byddai ddim ond yn bosibl gwneud elw trwy ostwngiadau costau a gynlluniwyd i mewn i’r prosesau busnes ar y cychwyn.

Mae’r busnes wedi ei leoli ar dri safle gyda swyddfeydd yn Yr Wyddgrug a warws dosbarthu yn Ninbych. Defnyddir cysylltiadau cyflym y wefan i gysylltu’r personel rheoli yn Yr Wyddgrug â’r safle yn Ninbych, ac mae’n bosibl monitro a rheoli’r archebion o unrhyw un o’r safleoedd sydd a chysylltiad gwefan. Cefnogwyd yr elfen hon o’r busnes gan Gynllun Cefnogaeth Bandlydan Awdurdod Datblygu Cymru gan alluogi holl elfennau’r busnes i weithio fel uned unigol.



Stori Llwyddiant EasyChemicals Ltd

Richard Drury a Granville Bell
EasyChemicals Ltd
Siop Ar-lein ar gyfer cemegau pyllau nofio a chitiau profi.

www.easypoolchemicals.co.uk

Mae EasyChemicals wedi mwynhau mewnbwn sylweddol oddi wrth y rhwydwaith o gefnogaeth sydd ar gael yn Sir Ddinbych. Fe dderbyniodd gymorth oddi wrth Asiantaeth Antur Sir Ddinbych trwy’r rhaglen Cychwyn Busnes Newydd Awdurdod Datblygu Cymru, Canolfan Cyber Sir Ddinbych ac Uned Datblygiad Economaidd Cyngor Sir Ddinbych trwy eu grant Marchnata ar gyfer y gost o labeli a phecynnu.

Yn gynnar yn ystod y prosiect tynnodd Asiantaeth Antur Sir Ddinbych sylw at y cwestiwn logistaidd gan cyflwyno’r busnes at bartner logistaidd soffistigedig a oedd yn barod yn weithredol yn Ninbych, a thrwy hyn, cynorthwyo i sicrhau nifer o swyddi yn yr ardal.

Bu’r gefnogaeth a dderbyniwyd oddi wrth Asiantaeth Antur Sir Ddinbych yn amhrisiadwy ac y byddem yn argymell bod unrhyw un sy’n sefydlu busnes yn cysylltu a hwy.

Tanzaro

Roeddem bob amser wedi breuddwydio y byddem yn rhedeg busnes fy hun rhyw ddydd gan fod yn feistr fy hun. Dechreuodd y freuddwyd droi’n wirionedd yn 1999 pan ymwelais ag Asiantaeth Antur Sir Ddinbych a chofrestri ar y Rhaglen Cychwyn Busnes Newydd.
Roedd hyn yn fy ngalluogi i dderbyn cefnogaeth/cymorth ac arweiniad 1 i 1 ynghŷd â mynychu gweithdai cynllunio busnes.

Bu staff Asiantaeth Antur Sir Ddinbych yn gynorthwyol iawn ac yn agos-atoch gan roi i mi’r hyder anghenrheidiol i gymryd siawns a dechrau busnes fy hun.

Roedd y gefnogaeth a gefais yn cynnwys:

  • Cyngor busnes/hyfforddiant
  • Gwasanaeth cyfieithu Cymraeg
  • Cefnogaeth moesol a hybu hyder
  • Cyngor a chymorth cyfrifyddiaeth
  • Gwneud cynllun gweithredu personol
  • Cymorth wrth gyflogi am y tro cyntaf
  • Darparu uned cychwynol
  • Cymorth i ddod o hyd i becynnau ariannu
  • Rhwydwaith o gefnogaeth o fewn Sir Ddinbych

Erbyn hyn mae’r busnes yn cyflogi 12 o bobl ac mae’n mynd o nerth i nerth.

Awgrymiadau

  • Ewch at Asiantaeth Antur Sir Ddinbych am gymorth o gam i gam
  • Peidiwch ag ofni gofyn am gyngor
  • Peidiwch ag ofni ceisio gwneud rhywbeth newydd

Heb y gefnogaeth a gawsom oddi wrth Asiantaeth Antur Sir Ddinbych ni fyddem wedi cael yr hyder i ddechrau yr hyn sydd, erbyn heddiw, yn fusnes llwyddianus iawn

Stori Llwyddiant Tanzaro

 

Christopher & Shani Edwards
Tanzaro